Annwyl Ymgeisydd Seneddol,
Mae dros 887,000 o bobl yn byw gyda chyflyrau cyhyrysgerbydol yng Nghymru felly mae effaith arthritis yn sylweddol – nid yn unig i’r unigolion a’u teuluoedd ond hefyd ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a’r economi ehangach. Mae llawer iawn mwy o bobl yn byw gyda phoen difrifol ac sy’n gwaethygu yn sgil y pandemig.
Gofynnwn yn garedig ichi arwyddo ein haddewid gan ein helpu i geisio trechu arthritis yn eich etholaeth neu ranbarth.
Gyda’ch help chi, fe allwn ni ofalu caiff arthritis ei ystyried yn brif flaenoriaeth fel sy’n ofynnol er mwyn gwneud newidiadau a lleihau’r effaith.
Ysgrifennwch eich manylion ac yna gwasgwch ‘Ychwanegu fy enw’ isod os gwelwch yn dda. Yna bydd cyfle ichi rannu eich addewid ar eich tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
Byddwn ond yn defnyddio’r cyfeiriad e-bost y byddwch chi’n ei rannu yma er mwyn estyn diolch ichi am eich addewid (oni bai eich bod chi’n clicio isod i dderbyn unrhyw ddiweddariadau). Byddwn yn cysylltu gydag ASau drwy eu cyfeiriad e-bost Seneddol swyddogol. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion gydag unrhyw gorff trydydd parti nac ychwaith yn cyhoeddi’ch addewid.
Click here to read this page in English.